Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 3 Hydref 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Cyllideb Ddrafft 2018-19 (60 munud)

·         Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o Chwaraeon Cymru (45 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol (30 munud)

·         Cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol mewn cysylltiad â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (30 munud)

·         Dadl:  Y Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg (60 munud)

 

Dydd Mercher 4 Hydref 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (45 munud)

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau Amserol (20 munud)

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Cyflwyno Bil a gynigir gan Bwyllgor - Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (30 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu 'Gwireddu'r Uchelgais - Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru' (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Lee Waters (Llanelli) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 10 Hydref 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Integreiddio a Gweithio mewn Partneriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol (15 munud)

·         Dadl:  Adolygiad Cyflym o'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020 (60 munud)

 

Dydd Mercher 11 Hydref 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau Amserol (20 munud)

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Tawelu'r Traffig: Effaith Tagfeydd ar Wasanaethau Bysiau (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Borthladdoedd Cymru o adael yr Undeb Ewropeaidd (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

·         Dadl Fer - Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 17 Hydref 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) (60 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif (45 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig) (15 munud)

·         Dadl:  Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb (60 munud)

 

Dydd Mercher 18 Hydref 2017

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (45 munud)

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (45 munud)

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau Amserol (20 munud)

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)